Cyfarwyddiadau – Sut i ddod o hyd i ni

O’r M4

Gadewch yr M4 gan ddefnyddio cyffordd 45 ac ymunwch â’r A4067 gan deithio i gyfeiriad y Gogledd. Cadwch at yr heol hon am dua 15 munud. Ewch yn syth heibio 6 chylchfan a dilynwch arwyddion Ogofau Dan-yr-Ogof ac Aberhonddu. Ar ôl y chweched cylchfan, dilynwch yr arwydd i Ystradgynlais a throwch i’r dde.. Wrth gyrraedd y cylchfan mini, trowch i’r chwith nes cyrraedd y dre. Ar ôl mynd heibio croesfan cerddwyr sebra gallwch weld y Neuadd Les ar y llaw chwith ar ôl mynd heibio’r garej. Mae digon o le i barcio yn y maes parcio sydd o flaen yr adeilad.

O Ffordd Blaenau’r Cymoedd A465

Gadewch yr A465 wrth gyrraedd Glyn-nedd a dilynwch yr A4109 i gyfeiriad Abercrâf. Parhewch i wneud hynny wrth i’r heol newid i’r A4221 ac ar ôl i chi gyrraedd y Gyffordd T, trowch i’r chwith a dilynwch yr A4067. Ar ôl mynd heibio Abercrâf, fe ddewch at ddau gylchfan mini, un ar ôl y llall. Cadwch i’r ochr chwith a chyn bo hir, fe ddewch i Benrhos. Ar waelod y tyle hir, trowch i’r dde i mewn i faes parcio'r Neuadd Les.

O Ganolbarth Cymru / Aberhonddu

Ymunwch â’r A40 a dilynwch yr heol hon i gyfeiriad y Gorllewin tan i chi gyrraedd Pontsenni. Trowch i’r chwith. Wrth wneud hynny byddwch yn gadael yr A40 ac yn ymuno â’r A4067 (i gyfeiriad Dan-yr-Ogof). Cadwch at yr heol hon ac ewch heibio Abercrâf. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.

 

internet stats 

scrinio byw